Cyfnod rhwng dau gyfnod, sef cyfnod yr Hen Ymneilltuaeth a chyfnod yr Ymneilltuaeth Newydd, oedd 1790-1837, blynyddoedd a welodd newidiadau mawr yn hanes cymdeithasol Cymru a thwf aruthrol yn hanes yr eglwysi Ymneilltuol. Mae’r traethawd yn darlunio bywyd a gwaith tri arweinydd Annibynnol, sef David Davies, Morgan Jones, a David Peter, a fu’n allweddol yn y newid hwn, gan ddadansoddi arwyddocâd eu cyfraniad. Dewiswyd de-orllewin Cymru yn faes yr astudiaeth fel enghraifft daleithiol o’r hyn a oedd yn digwydd yn genedlaethol, ac er mwyn tanlinellu pwysigrwydd tri ffigur na chafodd sylw eang gan haneswyr hyd yn hyn. Roedd gweinidogaethau y tri yn cwmpasu eglwysi yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, Abertawe a’i chyffiniau sef ardal oedd y...